• Amffibiaid ac Ymlusgiaid Cymreig
  • 13ed - 14ed Medi 2014

  • Y penwythnos yma mynychais gwrs ardderchog ar Ecoleg y Amffibiaid ac Ymlusgiaid, a gyflwynir gan Peter Hill sy'n gweithio i Amffibiaid Ymlusgiaid a Chadwraeth (ARC), elusen sy'n gweithio i warchod yr anifeiliaid gwych yma. Cliciwch yma i ddysgu mwy am ARC a'r gwaith pwysig eu bod nhw’n gwneud ...

    A female Slow-worm (Anguis fragilis) being held
    Mae Peter yn dangos i ni yn Neidr Ddefaid (Anguis fragilis)

    Cafodd y cwrs ei drefnu gan Rose Revera o Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Slip ger Penybont. Yn ogystal â chael cyfleusterau hyfforddi da iawn (a chaffi gwych!) Mae Parc Slip yn warchodfa natur hardd lle gall dod o hyd a wyth o'r tair ar ddeg o rywogaethau Prydeinig o ymlusgiaid ac amffibiaid. Dros y penwythnos redden ni’n digon ffodus i weld y rhan fwyaf ohonynt gan gynnwys llawer o wiberod a madfallod cyffredin.

    Adder (Vipera berus) basking at Parc Slip Nature Reserve

    Young Common Lizard (Zootoca vivipara) at Parc Slip Nature Reserve
    Madfall Cyffredin ifanc (Zootoca vivipara)

    Adult Common Lizard (Zootoca vivipara) at Parc Slip Nature Reserve
    Madfall Cyffredin aeddfed (Zootoca vivipara)

    Adder (Vipera berus) at Parc Slip Nature Reserve
    Gwiber benywaidd (Vipera berus)

    Warchodfa natur mawr ydy Parc Slip gyda llawer o gynefinoedd gwahanol. Wrth yn astudio y nadroedd a madfallod y daethom ar draws llawer o fywyd gwyllt arall. Isod mae lluniau o rai o fy ffefrynnau. Cliciwch yma os hoffech wybod mwy am Warchodfa Natur Parc Slip a'r weithgareddau amrywiol sy'n digwydd yno ...

    Painted Lady (Vanessa cardui) at Parc Slip Nature Reserve Knot Grass (Acronicta rumicis) at Parc Slip Nature Reserve
    Gloyn Byw Mantell Dramor (Vanessa cardui) a lindysyn Bidogau'r Tafol (Acronicta rumicis)

    Spiked Shieldbug (Picromerus bidens) eating a caterpillar
    Tarianbryf Pigog (Picromerus bidens) yn bwydo ar Lindysyn Bidogau'r Tafol arall.