Hugh Lansdown - photographer

Fy enw i yw Hugh Lansdown ac dw i'n ffotograffydd bywyd gwyllt ac awdur sy'n byw yn Abertawe, de Cymru lle dw i wedi gwneud gwahanol weithgareddau chadwraeth dros y blynyddoedd, yn cynnwys arwain teithiau cerdded, rhoi sgyrsiau, a chadeirydd grŵp lleol Ymddiriedolaeth Natur.

Os hoffech chi weld rhai o fy lluniau o’r anifeiliaid, gallwch ddefnyddio'r dewislenni ar y brig i edrych ar fy adroddiadau. Os hoffech wybod mwy am fy ffotograffiaeth, gwaith cadwraeth a'r cyfryngau cymdeithasol, gallwch chi gysylltu â mi yma.

Newyddion Diweddaraf

  • Gardd Bywyd Gwyllt Pum Mlynedd Ymlaen

  • Mehefin 2025
  • Yn ystod cyfyngiad Covid 2020 penderfynais troi'r patio noeth, yng nghefn fy nhŷ yn ardd bywyd gwyllt. Nawr, pum mlynedd yn ddiweddarach, diolch i'r feithrinfa anhygoel Celtic Wildflowers mae'r ardd yn orlawn o flodau brodorol ac yn llawn bywyd gwyllt, gan gynnwys 13 rhywogaeth o flynydd y neidr, 22 gloÿnnod byw, 8 mamal gwyllt a llawer o adar, chwilod, gwenyn ac ati. Cliciwch yma am adroddiad llawn (yn Saesneg) gyda llawer mwy o luniau yn ogystal â rhai fideos a rhestrau o rywogaethau.

    Greater Water Boatman (Notonecta glauca) in my pond
    Cefn-nofiwr (Notonecta glauca) yn y pwll



  • Sweden yn y gaea

  • 8ed - 17ed Chwefror 2025
  • Yn anffodus roedd rhaid i mi ohirio dechrau fy nhaith oherwydd salwch, ond treuliais wythnos dda iawn yn mwynhau Sweden yn y gaeaf. Does na ddim llawer o fywyd gwyllt ar yr adeg honno o'r flwyddyn, ond welais rai adar ysglyfaethus hyfryd gan gynnwys eryr, gwalchdylluan a'r gwalch marthin hardd isod gyda'i lygaid coch llachar!

    Male Goshawk (Astur gentilis) in the snow
    Goshawk (Astur gentilis)






  • Wildlife of the World - South Africa

  • 18ed Tachwedd 2024
  • Mae'r pedwerydd llyfr yng nghyfres 'Wildlife of the World' nawr ar gael (yn saesneg). De Affrica yw un o leoliadau bioamrywiaeth gorau'r byd ac mae'r llyfr hwn yn cynnwys lluniau o anifeiliaid fel llewod i bengwiniaid, a meercathod i forfilod... ac llawr, llawr mwy!   
    Cliciwch yma ar gyfer manylion a dolen Amazon.

    Wildlife of the World: South Africa, children's book


  • Tour of Scandinavia

  • 2nd - 19th September 2024
  • Am sbell dw i wedi ffansio'r syniad o archwilio Sgandinafia yn y campervan, ac yn mis medi wnes i gwneud hynny. Roeddyn yn brofiad gwych gyda golygfeydd hardd iawn, on hefyd ochr dywyllach......
    Cliciwch yma ar gyfer adroddiad y taith (yn saesneg) sy'n cynnwys rhai ystadegau annifyr...

    Wyneb Mochyn Daear (Meles meles)
    Mochyn Daear (Meles meles)




  • Andes a Coedwig y Cwmwl Ecwador

  • 9ed - 16ed Mehefin 2024
  • Treuliwyd wythnos olaf fy nhaith yn Ne America ym mhotspot bywyd gwyllt Ecwador, yn gyntaf yn parhau â heriau'r Andes uchel ac yna'n mwynhau bioamrywiaeth anhygoel yng nghoedwig y cwmwl.
    Gallwch ddod o hyd i fwy o luniau a manylion am fy nhaith (yn saesneg) yma...

    Kinkajou (Potos flavus) in the Ecuador cloud forest
    Kinkajou (Potos flavus) yn Bellavista Cloud Forest Reserve




  • Bwywd Gwyllt Dwyrain Brasil

  • 21ain Mai - 9ed Mehefin
  • Newydd ddychwelyd o daith anodd yn archwilio dwyrain Brazil. Nid oedd dod o hyd i fywyd gwyllt yn rhanbarth mwyaf poblog y wlad yn hawdd, ond gyda chymorth rhai tywyswyr rhagorol roeddwn yn gallu tynnu lluniau o fy holl brif rywogaethau targed.
    Cliciwch yma ar gyfer adroddiad y taith (yn saesneg)...

    Marmoset Gyffredin (Callithrix jacchus) yng ngerddi botanegol Rio de Janeiro
    Llun o marmoset gyffredin (Callithrix jacchus) yn neidio yn Rio de Janeiro




  • Bwywd Gwyllt Sri Lanca

  • 5ed - 13ed Chwefror 2024
  • Ar ôl y daith i'r Western Ghats, trefnais ymweliad byr â de-orllewin Sri Lanca. Mae'r wlad wedi dod yn llawer mwy datblygedig a thwristaidd ers fy ymweliad diwethaf 17 mlynedd yn ôl, ond mae'n dal lle ardderchog i wylio bywyd gwyllt. Adroddiad (yn saesneg) yma...

    Pod o Dolffiniaid Troellog yn neidio
    Pod o Dolffiniaid Troellog (Stenella longirostris)




  • Y Western Ghats, India

  • 28ain Jan - 5ed Chwefror 2024
  • Er mwyn osgoi glaw gaeaf Cymru, trefnais daith i'r Western Ghats yn ne India... rhanbarth hardd, mynyddig o'r wlad ddiddorol hon, gyda llawer o rywogaethau sy ddim yn byw unman arall yn y byd.
    Cliciwch yma ar gyfer adroddiad (yn Saesneg) gan gynnwys brogaod dawnsio a Leopard yn erlid!

    Leopard (Panthera pardus) running in India
    Leopard (Panthera pardus) ar gyflymder llawn!




  • Wildlife of the World - Madagascar

  • 25ain Mawrdd 2024
  • Trydydd llyfr yn fy nghyfres i blant 'Wildlife of the World - Madagascar' nawr ar gael (yn saesneg). Mae na dros 100 o luniau o anifeiliaid, yn ogystal â phosau a dolenni i fideos a chyfryngau ar-lein eraill.   Cliciwch yma ar gyfer manylion a dolen Amazon.

    Wildlife of the World: Madagascar, children's book


  • Mwy o Newyddion

    Cliciwch yma am mwy o adroddiadau newyddion...  

Digwyddiadau

  • 18ed Mai 2024
  • Arwain cerdded bywyd gwyllt ar Y Crwys, bro Gwyr

     
  • 21ain Mai - 9ed Mehefin 2024
  • Taith ffotograffaidd i Brasil

     
  • 9ed - 17ed Mehefin 2024
  • Taith ffotograffaidd i Ecwador

     
  • 2ail - 19ed Medi 2024
  • Taith ffotograffaidd i Sgandinafia

     
  • 18ed Tachwedd 2024
  • Wildlife of the World - South Africa yn cyhoeddi

     
  • 13ed Ionawr 2025
  • Sgwrs i Ymddiriedolaeth Natur Penybont

     
  • 2ail - 17ed Chwefror 2025
  • Taith ffotograffaidd i Sweden

     
  • 17ed Ebrill 2025
  • Newsletter Ebrill 2025

     
  • 6ed Mai 2025
  • Wildlife of the World - China e-lyfr yn cyhoeddi

     
  • 11ed Mai 2025
  • Newsletter Mai 2025

     
  • 1af Mehefin 2025
  • Arddangosfa Llyfrau yn Tŷ Coffi Brynmill

     
  • 15ed Mehefin 2025
  • Newsletter Mehfin 2025

     
  • 15ed Gorffenhaf 2025
  • Wildlife of the World - China 2ail Edition yn cyhoeddi

     
  • 17ed Gorffenhaf 2025
  • Newsletter Gorffenhaf 2025

     
  • 3edd Awst 2025
  • Wildlife of the World - Costa Rica e-lyfr yn cyhoeddi

     
  • 15ed Awst 2025
  • Newsletter Awst 2025

     
  • 10ed Medi 2025
  • Wildlife of the World - Costa Rica 2ail Edition yn cyhoeddi

     
  • 13ed Medi 2025
  • Newsletter Medi 2025

     
  • 25ed Medi - 20ed Hydref 2025
  • Taith ffotograffaidd i Indonesia

     
  • 1af - 13ed Chwefror 2026
  • Taith ffotograffaidd i Uganda

     
  • 25ed Mehefin 2026
  • Arwain cerdded bywyd gwyllt ar Y Crwys, bro Gwyr

     

Tripiau



Cliciwch ar y linkiau isod i weld adroddiadau fy'n teithiau (yn Saesneg):


Cadwraeth