Wrth treulio cwpl o wythnosau yn Ffrainc er mwyn wylio Cymru'n chwarae yn Cwpan Rygbi'r Byd, cymerais y cyfle i ymweld a rhai gwarchodfeydd natur. Roedd y Glas y Dorlan hardd hwn yn Teich Ornithological Reserve yn rhanbarth Aquitaine.
Glas y Dorlan (Alcedo atthis), Gironde, Ffrainc.
Haf yn Gogledd Siapan
10ed - 22ain Mehefin 2023
Pan dychwelais i Tsieina er mwyn trefnu fy sefyllfa ariannol, manteisiais ar y cyfle i ymweld â Siapan... y tro hyn yn y haf! Treuliais ychydig ddyddiau yn teithio o amgylch y brif ynys, Honshu, a wedyn wythnos ar ynys y gogledd, Hokkaido, yn chwilio am eirth, gwiwerod rhesog a morfilod, a hefyd aderyn ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Cliciwch yma ar gyfer adroddiad (yn Saesneg).
Cadno Coch (Vulpes vulpes) yn Parc Cenedlaethol Akan Mashu, Hokkaido
Trinidad a Thobago
9ed - 16ed Mawrdd 2023
Ar ôl Ecwador treuliais wythnos ar ynysoedd Caribïaidd Trinidad a Thobagon. Gwelais mwy o fywyd gwyllt nag oeddwn i'n ei ddisgwyl yn cynnwys yr anferth crwban môr lledrgefn a hefyd y silky anteater bach. Adroddiad llawn yma (yn saesneg)....
Fflamingo Americanaidd (Phoenicopterus ruber) yn Caroni Swamp, Trinidad
Ecuador: Andes i Amazonas
25ain Chwefror - 8ed Mawrdd 2023
Ar gyfer y daith nesa es i i'r Amerig, yn dechrau gyda Ecwador. Y prif targed oedd mamaliaid mewn tri chynefin; yr Andes uchel, y fforest gwmwl ac y coedwig-law Amazonas. Roedd y canlyniadau'n amrywiol ond welais y mwnci lleiaf yn y byd a sawl anifeiliaid arall. Cliciwch yma ar gyfer adroddiad llawn (yn Saesneg).
Glöyn byw Cliradain Baizana (Oleria baizana)
Wildlife of the World: Costa Rica
17eg Mai 2023
Fy'n ail lyfr yn cyfres i blant am fywyd gwyllt o gwmpas y byd, wedi ei gyhoeddi (yn Saesneg). Mae Wildlife of the World: Costa yn cynnwys llawer o lyniau a ffeithiau am anifeiliaid anhygoel y gwlad. Cliciwch yma ar gyfer manylion a dolen Amazon.
Wildlife of the World: China
12ed Chwefror 2023
Dw i newydd gyhoeddi fy llyfr cyntaf (yn Saesneg). Wildlife of the World: China yw'r gyntaf mewn cyfres o lyfrau i blant am fywyd gwyllt o gwmpas y byd. Cliciwch yma ar gyfer manylion a dolen Amazon.
Bwywd Gwyllt De Affrica
15eg - 29ain Hydref 2022
Ar ol wedi cael ei ganslo ddwywaith oherwydd Covid, es i o'r diwedd i De Affrica mis Hydref. Dim ond yn y gaeaf, dw i wedi ymweld o'r blaen, felli a tro yma chwiliais i yr amffibiaid, ymlusgiaid ac infertebratau dw i erioed wedi gweld. Cliciwch yma ar gyfer adroddiad llawn (yn saesneg).
Agama y Ddaear (Agama aculeata)
Bwywd Gwyllt Gogledd Tansania
5ed - 17ed Mehefin 2022
Ail daith y blwyddyn oedd i gogledd Tansania, o bosib y safle gorau yn y byd i wylio bywyd gwyllt. Gyrrais fy hun ym mhobman, ac oedd yn brofiad anhygoel gyda bwyd gwyllt wych! Cliciwch yma ar gyfer adroddiad llawn (yn saesneg).
Black a Rufous Elephant Shrew (Rhynchocyon petersi) yn Sansibar
Bwywd Gwyllt Costa Rica
6ed - 19ed Chwefror 2022
Dros dwy flynedd ers teithio tramore, penderfynais i drefnu taith i Gosta Rica. Gyda mwnciod swnllyd, brogaod rhyfedd, ysglyfaethwyr llechwraidd ac adar egsotig, ces i amser wych! Cliciwch yma ar gyfer adroddiad y taith (yn saesneg)....
Bronfraith (Turdus philomelos) mewn gardd bywyd gwyllt
Mulle, yr Alban
16ed - 19ed Medi 2020
Gyda'r taith De Affrica wedi ei gohirio, penderfynais i mynd gyda’m camperfan i ynys Mulle yn yr Alban. Yn fy marn i Mulle ydy y lle gorau yn Prydain i weld bywyd gwyllt. Roedd ffotograffiaeth yn anodd iawn gyda cymaint o bobl ymhobman ond es i ar taith llong wych a welais llawer o morfilod a dolffiniaid. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Dolffiniaid Cyffredin (Delphinus delphis) Mulle, yr Alban
Java, Indonesia
31ed - 3ydd Chwefror 2020
Java oedd ynys ola fy nhaith i Indonesia, gyda prif dinas Jakarta a haner poblogaeth y gwlad. Serch hynny welais i cryn dipyn o anifeiliad yn cynnwys y rhyfedd gwiddonyn corniog isod. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Gwiddonyn (Curculionidae sp.) yn Parc Cenedlaethol Gunung Gede, Java
Sumatra, Indonesia
23ain - 28ain Ionawr 2020
Newydd ddychwelyd o daith wych i ynysoedd swynol Indonesia. Dechreuais gyda tri diwrnod yn tynnu lluniau anifeiliaid yn coedwig law prydferth Parc Cenedlaethol Way Kambas. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Gwenynysor barfgoch (Nyctyornis amictus) yn bwyta sicada
Yn sicr nid yw Ethiopia y gwlad hawddaf i dynnu lluniau ynddi ac mae cadwraeth bywyd gwyllt yn wynebu llawer o heriau yno ond yn ystod fy ymweliad byr gwelais rai anifeiliaid cofiadwy iawn ac roedd y daith yn sicr yn werth yr ymdrech. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Llygoden Twrch-daear Anferth (Spalax giganteus)
Bwywd Gwyllt Penrhyn Gorllewinol, De Affrica
21ed - 28ed Mehefin 2018
Cychwynnodd fy nhaith i Affrica Ddeheuol yn y Penrhyn Gobaith Da ac yna ymlwybrais yn raddol i’r gogledd. Roedd y bywyd gwyllt a’r golygfeydd yn ysblennydd o adar y Penrhyn Gobaith Da fel y pelicanod a morfilod Bae Hermanus a chigysyddion diffeithdir Mawr y Karoo. Cliciwch yma ar gyfer adroddiad llawn (yn saesneg).
Pelicanod Gwynion (Pelecanus onocrotalus), Tref y Penrhyn
Sulawesi, Indonesia
28ain - 31ed Ionawr 2020
O Sumatra symydais i ynys trofannol arall Indonesia... Sulawesi. Yn croesi yr enwog 'Llinell Wallace' (enwid ar ol cymro, Alfred Russel Wallace) welais i nifer fawr o anifeiliaid wahannol ond hefyd problemau gwarchodaeth. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Macaque Cribog (Macaca nigra) ar y traeth yn Parc Cenedlaethol Tangkoko
Babwnod Gelada Debre Libanos, Ethiopia
19th October 2018
Cychwynnodd fy nhaith i Ethiopia drwy yrru am dair awr drwy brydferthwch mynyddoedd Debre Libanos mewn ymdrech i ddod o hyd i Fabŵnod Gelada. Er gwaetha’r brwydrau yn erbyn biwrocratiaeth ac amodau tywydd anodd mi gefais gyfle i dreulio ychydig o oriau gwerthfawr yno. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Babwn Gelada (Theropithecus gelada)
Paentiad Sebra
7ed Awst 2020
Hapus iawn bod arlynydd talentog Ian Peal wedi dewis i baentio un o fy'n ffotos. Mae mwy o luniau gan Ian ar gael
yma...
Frainc a Sbaen
28ain Medi - 18ed Hydref 2019
Penderfynais mynd gyda’m camperfan newydd i Frainc a Sbaen. Darganfyddais sawl lleoedd hardd a gwyllt gyda nifer o wahanol fathau o anifeiliaid. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Chamois Pyreneaidd (Rupicapra pyrenaica) yn gogledd-orllewin Sbaen
Adar a Mamaliaid Namibia
5ed - 17ed Gorffenhaf 2018
Cymal olaf fy nhaith i Affrica Ddeheuol oedd 12 niwrnod yn Namibia. Roedd stormydd tywod a chwmni hurio ceir amheus wedi gwneud pethau’n anodd ond roedd cyrraedd Parc Cenedlaethol Etosha wedi gwneud y cyfan yn werth chweil. Adroddiad llawn (yn saesneg) yma ....
Sebra'r Gwastatir (Equus quagga) yn llwch trochiad
O Barc Cenedlaethol Karoo, gyrrais y cerbyd 4x4 am y gogledd i Ddiffeithdir y Kalahari yn y Penrhyn Gogleddol. Unwaith eto, roedd y bywyd gwyllt yn hynod, o’r llewpardiaid hela chwareus a’r udfilod bygythiol i’r swricat chwilfrydig a’r aardvark trwsgl. Cliciwch yma am adroddiad llawn (yn saesneg)...
Aardvark (Orycteropus afer) yn cosi
Adar Werddon Fayoum
27ed - 28ed Ebrill 2018
Roedd daith i Werddon Fayoum yn niffeithdir yr Aifft yn gryn syndod o ran amrywiaeth yr adar. Roedd yno heidiau enfawr o Fflamingos Mawr, adar y glannau fel ibis a phibyddion y traeth, yn ogystal â gleision y dorlan, gwenynysorion a chudyllod coch yn hela. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Cudyll Coch (Falco tinnunculus) yn bwyta Llygoden Ddu (Rattus rattus)
Coedwig Law yr Amazon (Periw)
24ed - 28ed Gorffenhaf 2017
O un eithaf i un arall... teithiais o ucheldiroedd sych yr Andes i lawr i wres trofannol coedwig law'r Amazon a Gwarchodfa Genedlaethol Tambopata. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Dwrgi Avon Mawr (Pteronura brasiliensis)
Bwywd Gwyllt Mynyddoedd yr Andes
19th - 23rd July 2017
O Ynysoedd y Galapagos aethom i Beriw a Hafn Colca, sydd dros 4,000 metr uwch lefel y môr yn yr Andes Uchel. Roedd yn lle arbennig o brydferth... y prif atyniad yw rhyfeddod Condoriaid yr Andes ond mae llawer mwy o fywyd gwyllt na fydd pobl byth yn ei weld. Cliciwch yma am adroddiad (yn saesneg) a mwy o ffotos...
Pysgodyn Clicied Morlyn (Rhinecanthus aculeatus) yn y Mor Coch
Coedwig Law yr Amazon (Ecwador)
29ed Gorffenhaf - ail Awst 2017
Y man aros olaf ar y daith i Dde America oedd Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Cuyabeno, unwaith eto yng nghoedwig law'r Amazon ond y tro hwn yng ngogledd ddwyrain Ecwador a llu o rywogaethau diddorol cwbl wahanol. O bryfetach rhyfedd a phryfed cop anferthol i fwncïod tebyg i’r yeti a rhai eraill tebyg i gathod... Cliciwch yma am adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau...
Criciedyn Dalen (Tettigoniid sp.)
Bwywd Gwyllt Galapagos
11ed - 19ed Gorffenhaf 2017
Y man aros nesaf oedd Ynysoedd hynod y Galapagos. Roeddwn yn disgwyl dod ar draws amrywiaeth eang o fywyd gwyllt ac ni chefais fy siomi. Roedd yn syndod braf hefyd gweld y mesurau diogelwch llym sydd ar waith yno er gwaethaf niferoedd mor fawr o dwristiaid. Cliciwch yma am adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau...
Igwana Morol (Amblyrhynchus cristatus) yn Ynysoedd y Galapagos
Adar Coedwig y Cymylau Ecwador
7ed - 10ed Gorffenhaf 2017
Cychwynnodd fy nhaith i Dde America gydag ychydig ddyddiau yng nghoedwig y cymylau yn y mynyddoedd uwchlaw Quito, Ecwador, drwy dynnu lluniau adar hardd fel Ceiliog Craig yr Andes, sy’n aderyn rhyfedd iawn. Mwy o adar coedwig y cymylau yma...
Ceiliog Craig yr Andes (Rupicola peruvianus)
Bwywd Gwyllt Assam, India
1af - 14ed Ebrill 2017
Treuliais bythefnos yn Assam, yng ngogledd ddwyrain India yn tynnu lluniau’r rhinoserosiaid, yr eliffantod, y ceirw a’r adar fel yr Cordylluan Resog Asia ym Mharc Cenedlaethol Kaziranga. Cliciwch yma am mwy o luniau o Kaziranga...
Cordylluan Resog Asia (Glaucidium cuculoides) ym Mharc Cenedlaethol Kaziranga
Bras Beijing
4edd Mawrth 2017
Diolch i Terry Townsend a John MacKinnon am y daith wych i Lingshan ddoe. Roedd yno lawer o adar, gan gynnwys eryrod, fwlturiaid, hwyaid mandarin a chukar... ac mae hynny’n dangos cymaint o fywyd gwyllt sydd yn nhalaith Beijing os ydych yn gwybod ble i chwilio. Fy ffefrynnau yw’r breision isod, ac mi oedd y ddau ohonynt yn rhywogaeth newydd imi.
Bras Godlewski (Emberiza godlewskii) a Bras Dolydd (Emberiza cioides)
Bwywd Gwyllt Hokkaido
29ed Ionawr - 5ed Chwefror 2017
Rwyf newydd ddod yn ôl o daith i ddiffeithdir rhewllyd Hokkaido, ynys ogleddol wyllt Siapan, yn chwilio am aranau prin, tylluanod mawr ac eryrod ffyrnig. Adroddiad y daith (yn saesneg) ar gael yma...
Eryrod Môr Steller (Haliaeetus pelagicus) yn ymladd
Mwnciod Eira Siapan
27ed - 28ed Ionawr 2017
Newydd gyrraedd adref ar ôl taith ddeng niwrnod i Ogledd Japan gan gychwyn ym Mharc Cenedlaethol Joshinetsu Kogen ym mynyddoedd Ynys Honshu, cartref Macaque Siapan, y mwncïod mwyaf gogleddol yn y byd. Maent hefyd yn cael eu hadnabod fel 'Mwncïod Eira' ac maent yn enwog am eu harfer o ymdrochi yn y ffynhonnau poeth naturiol.
Newydd ddychwelyd ar ôl ychydig ddyddiau gwych ym Mharc Cenedlaethol Labahe, Talaith Sichuan yn ne orllewin China lle bûm yn tynnu lluniau o’r Panda Coch tlws. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma...
Panda Coch (Ailurus fulgens)
Bwywd Gwyllt Llwyfandir Tibeteg
1st - 7th October 2016
Bu gennyf ddarlun yn fy meddwl erioed o Lwyfandir Tibet fel man gwyllt ac anghysbell ac nid oeddwn erioed wedi dychmygu y cawn fynd yno, ond ym mis Hydref mi dreuliais i wythnos fythgofiadwy yn tynnu lluniau peth o’r bywyd gwyllt unigryw sy’n byw yno. Adroddiad llawn (yn saesneg) yma ...
Bleiddiaid (Canis lupus) yn croesu'r llwyfandir
Kiang (Equus kiang)
Bwywd Gwyllt Coedwig Law y'r Amazon
25ed - 29ed Gorffenhaf 2016
Coedwig law'r Amazon yw un o ardaloedd bywyd gwyllt enwocaf y byd ac ni wnaeth fy siomi. Roeddwn yn aros mewn llety eco gyfeillgar a oedd yn cael ei redeg gan y gymuned mewn rhan o’r goedwig sy’n cael llifogydd ac sy’n gartref i ddwy rywogaeth sydd dan fygythiad (ac sy’n edrych braidd yn od), yr Uacari Penfoel a Dolffin Afon yr Amazon. Wrth gwrs, mi welais ddigonedd o anifeiliaid diddorol eraill hefyd. Clickiwch yma am adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau...
Dolffin Afon yr Amazon (Inia geoffrensis)
Uacari Penfoel (Cacajao calvus)
Bwywd Gwyllt Gogledd Pantanal, Brasil
15ed - 24ed Gorffenhaf 2016
Gogledd Pantanal mae’n debyg yw’r lle gorau yn y byd i weld y jagwar, ac roedd yn fraint fawr pan ddaeth yr un ifanc hon i eistedd yn dawel ar lan yr afon a gadael i mi dynnu llun ohoni.
Siagwar ifanc benywaidd (Panthera onca)
Mae hefyd yn lle gwych i weld dyfrgwn mawr yr afon yn bwydo.
Dwrgi Avon Mawr (Pteronura brasiliensis) yn bwyta.
O Sichuan teithiais i’r de i gynefin cwbl wahanol... coedwig law drofannol Ynys Hainan. Ni welais ddim mamaliaid mawr, ond roedd y lle’n llawn o bryfetach a phryfed cop, gan gynnwys y gwehydd cronnell aur, a welir isod. Mae’r fenyw fawr yn ddigon amlwg, ond a allwch chi weld y gwryw bychan wrth ei hochr? Cliciwch yma am mwy o luniau a stori rhyfedd (yn saesneg) y Gwehyddion Cronnell Aur...
Gwehyddion Cronnell Aur y Gogledd benywaidd a gwrywaidd (Nephila pilipes)
Mwnciod Brawychus ar Mynydd Emei, Tseina
31ed Mawrdd - ail Ebrill
Fy ail fan aros yn Nhalaith Sichan oedd Mynydd Emei, llecyn cysegredig i Fwdhyddion ond sydd hefyd yn gartref i Macaque prin Tibet. Dyma un o’r mwncïod mwyaf yn Asia ac mi allant fod yn ymosodol iawn. Mae’r un isod yn bygwth un arall sy’n dod yn rhy agos, ond ymosododd un gwrywaidd arnaf innau hefyd. Cliciwch yma am y stori llawn (yn saesneg)...
Macaques Tibetaidd (Macaca thibetana) yn ymladd
Parc Cenedlaethol Tangjiahe, Dalaith Sichuan, Tseina
26ed - 30ed Mawrdd 2016
Euthum ar daith i Dalaith Sichuan i chwilio am famaliaid ac adar prin y dywedir sydd wedi goroesi ym mynyddoedd canolbarth Tsieina. Y man aros cyntaf oedd Parc Cenedlaethol Tangjiahe, cartref i’r takin euraidd trawiadol a llawer o famaliaid ac adar diddorol eraill.
Treuliais bedwar diwrnod ar Ynys Okinawa, un o'r ynysoedd yn bell de Siapan. Yna cafwyd cyfle tynnu lluniau o sawl anifeiliad diddorol yn y coedwig law trofannol..
Madfall Coed Okinawa (Japalura polygonata) yn bwyta lindysyn
Gwalchwyfyn Tryloyw (Cephonodes hylas) yn bwydo ar neithdar
Mae gan Parc Nara boblogaeth o dros fil o geirw syn sanctaidd felly does dim ofn o boble arnyn nhw. Weithiau mae nhw hyd yn oed yn crwydro i mewn i'r dref.
Carw Sika ifanc ym Mharc Nara
Carw Sika yn yr dref
Mwnciod Trwyn-smwt Enbydu
Dydd Mercher 23ed Medi 2015
Gyda Ysgol Harrow Beijing, treuliais rhy o dyddiau yn y Mynyddoedd Hengduan, de-gorllewyn Tsieni yn cefnogi cadwraeth o'r enbydu Mwnciod Trwyn-smwt Du (Rhinopithecus bieti).
Treuliais dri diwrnod yn cerdded yn y Mynyddoedd Wuyishan, de Tsieni er mwyn gwylio y bywyd gwyllt. Doedd na ddim mamaliaid a roedd yr adar yn swil iawn ond gwelais i lawer o anifeiliaid di-asgwrn a hefyd digon of Brogaod Hedfan.
Treuliais y noson yn Gwarchodfa Natur Fferm Median, Sir Caerfyrddin i weld effaith y gwaith cadwraeth sy wedi cael ei wneud yn ystod y gaeaf. Roedd yr archwiliad yn llwyddiannus iawn a gwelon Chris Manley, George Tordorff a fi dros can math gwahanol o wyfyn, rhai ohonyn nhw sy'n eitha prin. (Cliciwch yma am mwy o luniau...)
Gem Fforch Aur Hardd (Autographa pulchrina)
Gloynnod Byw Prin
31ed Mai 2015
Falch gweld llawer o Britheg Berlog Fach prin yn Nyffryn Alun y bore 'ma, ar ol yr holl waith cadwraeth yr ydyn wedi ei wneud yn ystod y gaeaf ar eu gyfer nhw.
Treuliais i noswyl Nadolig yn cerdded ar hyd y Llwybr Arfordir Cymru rhwng Pentywyn a Saundersfoot. Doedd 'na ddim llawr o bywyd gwyllt, ond roedd yr golygfeydd yn ardderchog.
Traeth Marchros, Sir Benfro
Amffibiaid ac Ymlusgiaid Cymreig
13ed -14ed Medi 2014
Mynychais gwrs ardderchog ar Ecoleg y Amffibiaid ac Ymlusgiaid y penwythnos yma. Ces i gyfle i ddysgu am sut mae’r anifeiliaid diddorol yma yn byw eu bywydau, a hefyd y gyfle i’w astudio nhw yn y eu cartrefi naturiol. Cliciwch yma am mwy o luniau ...
Madfall Cyffredin (Zootoca vivipara) yn torheulo yng ngwres yr haul hydrefol
Parc Cenedlaethol Llyn Mburo, Uganda
30ed Gorffenhaf - 1af Awst 2014
Y Parc Cenedlaethol olaf ar fy nhaith i Uganda oedd Lake Mburo ... gwarchadfa safana arall, ond y tro yma gyda llawer o drain brysgwydd sy'n darparu cysgod ar gyfer rhywogaethau fel Eland, Impala a Topi.
Mae dau gwrywaidd Topi yn ymladd ... bydd y buddugwr yn ennill yr hawl unigryw i baru gyda'r holl benywod yn y fuches!
O’r diwedd cyrraeddais brif amcan y daith ... Coedwig Anhreiddiadwy Bwindi yn bell de-orllewin Uganda yn agos at y ffin rhwng Rwanda a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Cymerodd pedair-awr garw o gyrru ac yna bedair awr arall yn cerdded drwy goedwig drofannol ffrwythlon ar lethrau mynyddoedd serth, ac yna yn sydyn roeddwn yn sefyll 5 metr o Gorila Mynydd silverback mawreddog! Yna cafwyd awr hudol yn tynnu lluniau o’r gorila a'i deulu wrth iddynt gasglu bwyd, chwarae a glanhau ei gilydd. Mwy o luniau o primatiaid Bwindi yma...
Parc Cenedlaethol y Frenhines Elizabeth, Uganda
25ed -27ed Gorffenhaf 2014
Mae Parc Cenedlaethol y Frenhines Elizabeth, fy arhosiad diweddaraf yn warchodfa safana arall. Nid oes yno gymaint o fywyd gwyllt â Murchison ond mi lwyddais i gael sawl llun da o eliffantod, byffalo a chrocodeiliaid yn ogystal â llun diddorol ar y camera nos y gadewais y tu allan i fy mhabell! Clipiau o trap camera yma…
Parc Cenedlaethol Kibale, Uganda
23ed - 25ed Gorffenhaf 2014
Y cymal diweddaraf ar fy nhaith i Uganda oedd taith anodd ddeuddeng awr o hyd o Raeadr Murchison ar hyd ffyrdd garw i Barc Cenedlaethol Kibale yn nyfnderoedd y goedwig law. Ond mi oedd yn werth yr ymdrech, gan fod y newid mewn cynefin wedi golygu llu o rywogaethau gwahanol gan gynnwys y chimps cyfarwydd. Adroddiad (yn saesneg) a lluniau o goedwig law yn y noson yma…
Rhaeadr Murchison, Uganda
21ed - 23ain Gorffenhaf 2014
Ein lle aros cyntaf yn Uganda oedd Parc Cenedlaethol Rhaeadr Murchison yng ngogledd orllewin y wlad. Ardal drawiadol iawn o safana gwyrdd toreithiog o gwmpas Afon Nîl ac yn llawn bywyd gwyllt gan gynnwys eliffantod, jiráffs, llewod, hipos a rhywogaethau niferus o adar. Adroddiad (yn saesneg) a mwy o luniau yma…
Jiráff (Giraffa camelopardalis) yn bwyta
Gwenynysor Gyddfgoch (Merops bullocki)
Coedwig Belgrade, Twrci
20ed Gorffenhaf 2014
Treuliais y bore yng Nghoedwig Belgrade ar gyrion Istanbul. Mae’n goedwig lydanddail hardd gyda llawer o fywyd gwyllt diddorol gan gynnwys adar, gloÿnnod byw, gweision neidr a madfallod.
Coedwig Belgrade
Madfall Wal Balcanaidd (Podarcis tauricus)
Gwibiwr Mawr (Ochlodes sylvanus)
Cerdded Megiod a Gwyfod
28ed Mehefin 2014
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth ar y daith gerdded y bu Mike Bright a minnau’n ei harwain o amgylch Old Castle Down neithiwr. Er gwaethaf y tywydd gwael a’r amser cychwyn hwyr daeth nifer dda ynghyd ac roedd pawb wedi mwynhau eu hunain. Llwyddodd Mike i ganfod cyfanswm o bum pryfyn tân yn goleuo’n ddisglair.
Nid oes yn rhaid teithio i leoliadau egsotig i ddod o hyd i fywyd gwyllt rhyfedd. Dyma copyn heglog fenywaidd syn dal ei sach wyau yn ei dannedd wrth hongian o nenfwd fy ystafell ymolchi fore heddiw.
Copyn Coesau-hir (Pholcus phalangioides) gyda wyau
Nadroedd a Chopynnod Prin
29ed Mai 2014
Newydd gyrraedd yn ôl o daith wlyb ond diddorol i Surrey lle cyfarfûm â Matt Dowse o’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, a fu’n dangos mi rywfaint o’r gwaith maent yn ei wneud i warchod ymlusgiaid prin fel y neidr lefn hardd. Cliciwch yma i ddysgu mwy am yr Ymddiriedolaeth...
Neidr Lefn (Coronella austriaca)
Tra’r oeddem yno roeddwn yn gallu dangos y pryf copyn Hackled Orbweb sydd yr un mor brin i Matt na fyddai wedi goroesi oni bai am y gwaith rheoli cynefinoedd gwerthfawr mae’r ymddiriedolaeth wedi’i wneud. Cliciwch yma i ddarllen mwy am y copyn rhyfedd (yn saesneg)...
Cenedlaethau Gwyfod
26ed Mai 2014
Yr haf diwethaf roedd cannoedd o lindys blaen brigyn yn bwyta’r gollen a’r dderwen yn fy ngardd. Yn ôl pob golwg mae o leiaf rai ohonynt wedi goroesi’r gaeaf gan fy mod wedi dod ar draws pâr yn cychwyn ar y genhedlaeth nesaf y bore yma. Mwy o luniau o'r Blaen Brigyn yn fy'n ardd yma...